Press Releases
10 August 2021
Infinite strikes ‘Gold’ at the Royal Mint
The renewable energy company Infinite has won the tender to supply power directly to the Royal
Mint (TRM). The project will bring together specialists in the renewable energy field – development,
technical and finance, to build a multi technology Local Energy Centre on the site in Llantrisant. The
Centre will incorporate a 2MW Solar Farm on adjacent land which in itself is forecast to provide
2.4GWh of annual generation directly to TRM. Wind, hydrogen-ready Combined Heat & Power
(CHP) and battery storage form the mix of other technologies used.
Andrew Crossman, Director Infinite, said: “The Energy Centre at the Royal Mint is a tremendously
exciting and innovative project that pushes the boundaries of de-centralised energy generation and
microgrid distribution. As a large manufacturing site, the Royal Mint is the perfect candidate site for
an integrated energy centre. The generation from low carbon and renewable technologies,
distributed via smart microgrid will provide a huge boost to The Royal Mint’s carbon reduction
strategy.”
Sarah Bradley, Director of HR, Safety and Environment at the Royal Mint, said: “We are continually
looking for ways to be a sustainable business and reduce our carbon impact and be a considerate
neighbour to our environment. In 2018 we unveiled a wind turbine on site, and we are pleased to be
working with Infinite to build on our commitment to renewable energy.”
The Vestas 850kW ‘Daffodil’ wind turbine which was designed, supplied and built by Infinite will be
integrated into the LEC generation. It already supplies up to 10% of the Royal Mint’s energy
demand.
The containerised energy storage scheme (ESS), will comprise of a dual-chemistry ADEPT battery
management system (BMS), developed by Infinite in partnership with GS Yuasa and the University of
Sheffield and will offer a new power solution that combines the fast response of the lithium battery
with the endurance of lead acid.
The Centre which is expected to be operational by Autumn 2022 is part of the Generation Storage
Consumption Supply project (GSCS) and is funded by The European Regional Development Fund
(ERDF) and Albion Community Power. It will save on energy costs and offer carbon reduction.
Marco Yu, Investment Director, Albion Community Power, says: “Albion is thrilled to be bringing its
local energy expertise to enable this ‘first of a kind’ project alongside the Infinite team and the Royal
Mint. It is an important signpost in how the UK can achieve net zero emissions, democratise the energy system and support employment in the area. It is a very exciting step forward.”
Welsh Government Minister for Climate Change Julie James said: “This new project at the Royal Mint
together with the recent opening of the Energy Centre in Ebbw Vale and other EU-funded local
energy schemes which are planned across the South and West Wales are exciting developments and
are an important step towards our ambition of a low-carbon future for Wales. They will provide cost effective, reliable green energy to local businesses and communities.”
Infinite will establish a local Community Fund with a percentage of the revenue generated by the CHP
and Solar Farm distributed to local charities and community groups whose initiatives complement the
themes of the European Structural Funds.
About Infinite:
Infinite was formed in 2010 as a specialist renewable energy developer to create merchant wind power schemes for commercial clients. Since then, it has delivered multiple commercial turbine and large scale Solar PV schemes across the UK and is now pioneering multi-technology renewable energy centres for industry, to provide more secure, reliable and cost effective sustainable energy directly to industrial communities.
Datganiad i’r wasg
Awst 10fed 2021
INFINITE YN TARO AR ‘AUR’ YN Y BATHDY BRENHINOL
Mae’r cwmni ynni adnewyddadwy Infinite wedi ennill y tendr i gyflenwi pŵer yn uniongyrchol i’r Bathdy Brenhinol. Bydd y prosiect yn dod ynghyd arbenigwyr ym maes ynni adnewyddadwy – datblygu, technegol a chyllid, i adeiladu canolfan ynni leol amldechnoleg ar y safle yn Llantrisant. Bydd y ganolfan yn ymgorffori fferm solar 2MW ar dir cyfagos y rhagwelir y bydd yn cynhyrchu 2.4GWh bob blwyddyn i’r Bathdy Brenhinol. Gwynt, Gwres a Phŵer Cyfunedig sy’n barod am hydrogen a storio batris yw’r cymysgedd o dechnolegau a ddefnyddir.
Meddai Andrew Crossman, Cyfarwyddwr Infinite: “Mae’r ganolfan ynni yn y Bathdy Brenhinol yn brosiect aruthrol o gyffrous ac arloesol sy’n gwthio ffiniau cynhyrchu ynni datganoledig a dosbarthu micro-grid. Fel safle gweithgynhyrchu mawr, y Bathdy Brenhinol yw’r safle ymgeisiol perffaith ar gyfer canolfan ynni integredig. Bydd cynhyrchu ynni o dechnolegau carbon isel ac adnewyddadwy, wedi’i ddosbarthu drwy ficro-grid clyfar, yn hwb enfawr i strategaeth lleihau carbon y Bathdy Brenhinol.”
Meddai Sarah Bradley, Cyfarwyddwr AD, Diogelwch a’r Amgylchedd yn y Bathdy Brenhinol: “Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o fod yn fusnes cynaliadwy a lleihau ein heffaith carbon a bod yn gymydog ystyriol i’n hamgylchedd. Yn 2018, gwnaethom ddadorchuddio tyrbin gwynt ar y safle, ac mae’n bleser gennym weithio gydag Infinite i adeiladu ar ein hymrwymiad i ynni adnewyddadwy.”
Bydd y tyrbin gwynt ‘Daffodil’ 850kW Vestas a gafodd ei ddylunio, ei gyflenwi a’i adeiladu gan Infinite yn cael ei integreiddio â system cynhyrchu LEC. Mae eisoes yn cyflenwi hyd at 10 y cant o alw ynni’r Bathdy Brenhinol.
Bydd y cynllun storio ynni mewn cynwysyddion, yn cynnwys system rheoli batris ADEPT â dau fath o fatri cemegol, wedi’i ddatblygu gan Infinite mewn partneriaeth â GS Yuasa a Phrifysgol Sheffield a bydd yn cynnig datrysiad pŵer newydd sy’n cyfuno ymateb cyflym y batri lithiwm â gwytnwch asid plwm.
Mae’r ganolfan, y disgwylir iddi fod yn weithredol erbyn hydref 2022, yn rhan o’r prosiect Cynhyrchu, Storio, Defnyddio, Cyflenwi (GSCS) ac wedi’i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ac Albion Community Power. Bydd yn arbed ar gostau ynni ac yn cynnig gostyngiad carbon.
Medd Marco Yu, Cyfarwyddwr Buddsoddi, Albion Community Power: “Mae Albion wrth ei fodd ei fod yn dod â’i arbenigedd ynni lleol i alluogi’r prosiect hwn, y ‘cyntaf o’i fath’, ochr yn ochr â thîm Infinite a’r Bathdy Brenhinol. Mae’n arwydd pwysig o sut y gall y DU gyflawni allyriadau sero-net, democrateiddio’r system ynni a chefnogi cyflogaeth yn yr ardal. Mae’n gam cyffrous iawn ymlaen.”
Meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: “Mae’r prosiect newydd hwn yn y Bathdy Brenhinol, ynghyd ag agor y ganolfan ynni’n ddiweddar yng Nglynebwy a chynlluniau ynni lleol eraill a ariennir gan yr UE sydd yn yr arfaeth ar draws De a Gorllewin Cymru yn ddatblygiadau cyffrous ac yn gam pwysig ymlaen tuag at ein huchelgais, sef dyfodol carbon isel i Gymru. Byddant yn darparu ynni gwyrdd cost-effeithiol, dibynadwy i fusnesau a chymunedau lleol.”
Bydd Infinite yn sefydlu cronfa gymunedol leol a dosberthir canran o’r refeniw y mae Gwres a Phŵer Cyfunedig a’r fferm solar yn ei greu i elusennau lleol a grwpiau cymunedol y mae eu mentrau’n cyd-fynd â themâu’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
Ynglŷn ag Infinite:
Sefydlwyd Infinite yn 2010 fel datblygwr ynni adnewyddadwy arbenigol i greu cynlluniau pŵer gwynt masnachol i gleientiaid masnachol. Ers hynny, mae wedi darparu nifer o gynlluniau tyrbinau a solar ffotofoltäig masnachol mawr ar draws y DU ac mae bellach yn arloesi canolfannau ynni adnewyddadwy amldechnoleg ar gyfer diwydiant, i ddarparu ynni cynaliadwy mwy diogel, dibynadwy a chost-effeithiol yn uniongyrchol i gymunedau diwydiannol.
Cyswllt y cyfryngau: Gaenor Howells gaenor@gaenorhowells.com www.infiniterenewables.com